Ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu o’r enw Effaith yr Achosion COVID-19 ar y Diwydiannau Creadigol

 

 

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cynnig yr ymatebion canlynol i’r naw argymhelliad a wnaed ynddo.

 

Argymhelliad 1

 

Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys i nodi sut y bydd yn blaenoriaethu’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Dylai Llywodraeth Cymru hefyd ymrwymo i wario’r £59 miliwn cyfan ar y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.

 

Ymateb:Derbyn

 

Ar 30 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £53 miliwn i helpu i gefnogi a chynnal y sector yn sgil yr heriau a wynebwyd oherwydd pandemig y Covid-19.  Bwriad y gronfa yw darparu cymorth hanfodol i theatrau, mannau cynnal cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, amgueddfeydd, orielau, digwyddiadau a gwyliau a sinemâu annibynnol sydd i gyd wedi gweld colledion difrifol yn eu refeniw oherwydd y pandemig. Bydd yr arian yn helpu sefydliadau ac unigolion yn y sector.

 

Mae tair elfen i’r gefnogaeth sy’n ategu ei gilydd: cyllid, i ddiogelu sefydliadau cynaliadwy a chymaint o swyddi yn y sector diwylliant â phosibl; contract diwylliannol i ddefnyddio’r arian i sbarduno gweddnewidiad ac i gefnogi ffyrdd newydd o weithio; a map ar gyfer ailagor, i sicrhau bod y gefnogaeth yn helpu’r sector i ailagor yn ddiogel cyn gynted â phosibl.

 

Caiff yr arian ei ddarparu trwy dri chyfrwng:

·         Arian gan Lywodraeth Cymru i gefnogi sefydliadau;

·         Arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi sefydliadau;

·         Help i unigolion.

 

Y bwriad yw agor elfen Cyngor Celfyddydau Cymru o’r gronfa ganol mis Awst ac elfennau Llywodraeth Cymru ar gyfer ceisiadau ganol mis Medi.

 

O’i gymryd gyda’r pecyn cyllido o £18m a gyhoeddwyd ddechrau mis Ebrill i gefnogi’r ymateb brys, mae cyllid Llywodraeth Cymru i’r sector diwylliant eleni’n fwy na’r arian canlyniadol sydd wedi dod i law. Mae’r sector wedi cael help hefyd trwy Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

 

Goblygiadau ariannol: Dyraniad ychwanegol o £53m yn 2020-21, yn cynnwys £50m o refeniw a £3m o gyfalaf i gefnogi Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru.

 

Argymhelliad 2

 

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i ymchwilio i ffyrdd o roi cymorth ariannol i weithwyr yn y diwydiannau creadigol sydd, wrth i’r cyfnod clo lacio, yn methu dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel o hyd.

 

Ymateb:Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £7m o Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru i helpu’r unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol y mae pandemig y COVID-19 wedi effeithio arnynt.  Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod yr anawsterau sy’n gysylltiedig ag ailddechrau gweithgarwch yn y diwydiannau creadigol yng ngoleuni’r mesurau i gyfyngu ar ledaeniad y feirws, ac effaith arwyddocaol hyn ar allu unigolion a gweithwyr llawrydd yn y sector i gael hyd i waith a chreu incwm.  Bydd y gronfa’n rhoi help hanfodol i’r unigolion hyn sy’n hollbwysig i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.

 

Law yn llaw â’r cymorth ariannol hwn, mae map ar gyfer ailagor yn cael ei ddatblygu.  Bydd yn crisialu’r amserlen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau ar draws y diwydiannau creadigol ac yn sicrhau bod y cymorth yn helpu i ailddechrau gweithgarwch yn ddiogel cyn gynted â phosibl. 

 

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod sut i helpu gweithwyr yn y diwydiannau creadigol â Llywodraeth y DU.

 

Goblygiadau ariannol: Mae £7m o refeniw ar gael yn 2020-21 i helpu unigolion.

 

 

Argymhelliad 3

 

Dylai Llywodraeth Cymru ymateb i ymgynghoriad Ofcom ynglŷn â dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus i eirioli dros gyllid digonol i sicrhau y gall darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus barhau i ddarparu rhaglenni sy'n tarddu o Gymru a chynnwys unigryw o Gymru.

 

Ymateb:Derbyn

 

Bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb i ymgynghoriad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

 

Goblygiadau ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol.

 

Argymhelliad 4

 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod ei chanllawiau ynghylch y camau sydd angen eu cymryd i ailgychwyn gweithgaredd ffilmio a chynhyrchu yn ofalus yn cael eu cyhoeddi ar frys.

 

Ymateb:Derbyn

 

Cafodd canllawiau ar gyfer ailddechrau gweithgarwch ffilmio a chynhyrchu eu cyhoeddi ar 16 Mehefin fel rhan o ganllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiannau creadigol. Mae hon yn ddogfen fyw ac mae’n cael ei diweddaru yn unol â’r newidiadau i’r rheoliadau yng Nghymru ac wrth i ragor o arweiniad a chyngor ddod i law gan y diwydiant. Mae dogfen cwestiynau cyffredin wedi’i chynhyrchu i gyd-fynd â’r canllawiau i ateb cwestiynau penodol gan y sector.  

 

Bu tîm Cymru Greadigol yn gweithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Grŵp Cefnogi Rhanddeiliaid Sgrin COVID-19 sydd â chynrychiolwyr o ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, cwmnïau cynhyrchu annibynnol ac undebau’n aelodau ohono, i ddatblygu’r canllawiau. Mae Cymru Greadigol yn dal i gydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau bod y canllawiau’n dal i ddiwallu anghenion y sector wrth i’r cyfyngiadau gael eu codi.

 

Mae’r canllawiau yn dangos cyngor ac arferion gorau’r diwydiant, gan gynnwys canllawiau’r diwydiant ar gyfer cynhyrchu rhaglenni teledu’n ddiogel a gynhyrchwyd gan ddarlledwyr, protocolau diogelwch BFC ar gyfer y diwydiant a chanllawiau’r BBC ar Weithio’n Agos.  Mae swyddogion Cymru Greadigol wedi bod yn cyfrannu at y canllawiau a ddatblygwyd gan y BFC a darlledwyr, trwy gydweithio â’r gweithgorau perthnasol a thrwy drafodaethau uniongyrchol.

 

Goblygiadau ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol.

 

 

Argymhelliad 5

 

Dylai Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw drafodaethau sy’n cael eu harwain gan Cymru Greadigol am yr yswiriant cynhyrchu sydd ar gael.

 

Ymateb:Derbyn

 

Ar 29 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Ailddechrau Cynhyrchu Ffilm a Theledu gwerth £500 miliwn i ddarparu cymorth ar gyfer yswiriant cynhyrchu – cymorth sy’n fawr ei angen ar y diwydiant. Mae’n rhan o’r Gronfa Adferiad Diwylliannol ehangach. Roedd Cymru Greadigol wedi cynnal nifer o drafodaethau gydag Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU cyn y cyhoeddiad i bwysleisio mor bwysig fyddai’r cymorth hwn i’r sector yng Nghymru. Bydd Cymru Greadigol yn dal i weithio gyda’r DCMS i gefnogi ceisiadau o Gymru, gan gynnwys hwyluso sesiwn Holi ac Ateb rhwng y DCMS a’n grŵp rhanddeiliaid sgrin COVID-19  cyn lansio’r broses ymgeisio, i’w gynnal ddiwedd Awst/dechrau Medi.

 

Goblygiadau ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol.

 

 

Argymhelliad 6

 

Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn trafodaethau gyda'r Trysorlys a'r diwydiant yswiriant i geisio gwarantau a fydd yn rhoi'r hyder sydd ei angen ar ddarparwyr yswiriant i sicrhau bod yswiriant cynhyrchu ar gael.

 

Ymateb:Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn bositif i’r cyhoeddiad ynghylch y Cynllun Ailddechrau Cynhyrchu Ffilm a Theledu.  Mae’r prif randdeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys PACT, hefyd wedi croesawu’r cyhoeddiad.  Mae asesiad cychwynnol o’r wybodaeth sydd ar gael am y cynllun yn awgrymu bod y telerau a’r amodau ar gyfer ymgeiswyr yn ateb y galw ac yn diwallu anghenion ymgeiswyr cymwys o Gymru.  Bydd Cymru Greadigol yn cydweithio’n glos ag ymgeiswyr a’r DCMS i sicrhau mai’r rheini sydd â’r angen mwyaf yng Nghymru sydd fwyaf tebygol o gael eu helpu trwy’r cynllun.

 

Goblygiadau ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol.

 

Argymhelliad 7

 

Dylai Llywodraeth Cymru drafod darparu yswiriant ar gyfer digwyddiadau byw yn ei thrafodaethau â'r Trysorlys a'r diwydiant yswiriant.

 

Ymateb:Derbyn

 

Dylai Digwyddiadau Cymru drafod a chytuno â Grŵp Cynghori’r Diwydiant fel rhan o’r drafodaeth ehangach am y rhagolygon ar gyfer y sector digwyddiadau – gan gynnwys y posibilrwydd ar gyfer ei ailagor fesul cam – a chodi’r mater gyda Llywodraeth y DU.

 

Goblygiadau ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol –  os trafodaeth yw hon am gymorth gan Lywodraeth y DU.

 

Argymhelliad 8

 

Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r rheini sy’n derbyn cyllid Cymru Greadigol ddangos eu hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth eu gweithlu.

 

Ymateb:Derbyn

 

Mae codi safonau a hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws y diwydiannau creadigol yn flaenoriaethau i Cymru Greadigol.  Ein gweledigaeth ar gyfer y sector yw bod pawb, waeth beth yw ei amgylchiadau na’i gefndir, yn cael manteisio ar gyfleoedd a ffynnu; creu diwydiant amrywiol lle mae’r gwaith yn deg a’r gweithle’n gynhwysol.  Ein bwriad yw sbarduno newid ac i weithio mewn cydweithrediad â’r diwydiant i hybu cynhwysiant, cyflog teg ac arferion gweithio teg, fel uchelgais ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith teg yng Nghymru. Bydd Cymru Greadigol yn cynnal gwaith mapio manwl cyn hir o’r sector sgrin ledled Cymru. Bydd hwnnw’n darparu data ynghylch lefel yr amrywiaeth o fewn y sector ac yn edrych ar beth sy’n rhwystro grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Rydym yn gweithio hefyd â darparwyr hyfforddiant i edrych ar ffyrdd o wella’r drefn recriwtio er lles grwpiau a dangynrychiolir.

 

Mae gofyn i fusnesau sy’n cael cymorth ariannol uniongyrchol gan Cymru Greadigol arwyddo Contract Economaidd, i ddangos eu hymrwymiad i bedair egwyddor, gan gynnwys gwaith teg a hyrwyddo iechyd, iechyd meddwl, sgiliau a hyfforddiant yn y gwaith.  Rydym hefyd yn adolygu ein cyllid cynhyrchu i ystyried sut y gallem addasu’r hyn a gynigiwn i fynnu bod y rheini sy’n derbyn cyllid gennym yn cydymffurfio â set o safonau ar amrywiaeth fel amod o’r cymorth hwnnw.

 

Bydd y Gronfa Cadernid Diwylliannol hefyd yn ein cefnogi i wireddu’n huchelgais ar gyfer amrywiaeth yng ngweithle’r diwydiannau creadigol ac yn gyfle unigryw i sicrhau newid sylfaenol trwy gyflwyno contract diwylliannol sydd â gwaith a chyflog teg a chynaliadwyedd yn greiddiol iddo.

 

Goblygiadau ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol.

 

 

Argymhelliad 9

 

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr egwyddor o ymgynghori â rhanddeiliaid yn cael ei hymgorffori yn ffyrdd Cymru Greadigol o weithio.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae llwyddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru wedi'i adeiladu ar sylfaen o gydweithio llwyddiannus, ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd meithrin partneriaethau llwyddiannus a chefnogi cydweithio yn elfen hanfodol ar gyfer twf yn y dyfodol. Felly, mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth wirioneddol ag ystod eang o randdeiliaid, o gynrychiolwyr y diwydiant i undebau llafur, ac mae strwythur gweithredol Cymru Greadigol yn cynnwys adran farchnata a chyfathrebu bwrpasol a fydd yn rhoi arweiniad ar gydweithio â rhanddeiliaid ac yn cefnogi dull effeithiol a chydgysylltiedig o weithio gyda’n partneriaid.

 

Sefydlwyd grwpiau rhanddeiliaid ar gyfer pob un o'n his-sectorau blaenoriaeth i lywio ein hymateb i'r pandemig COVID-19, er mwyn sicrhau bod cynlluniau cymorth yn ategu ei gilydd a bod gennym drywydd cydgysylltiedig at ymadfer. Ein bwriad yw cadw'r grwpiau hyn fel y gallwn barhau i drafod â rhanddeiliaid allweddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i asesu perthnasedd ein gwaith, nodi cyfleoedd i gefnogi ymhellach, rhannu syniadau a cheisio adborth wrth i ni droi ein golygon at ymadfer. Bydd y strwythur hwn yn cael ei ddefnyddio hefyd i lywio datblygiad ein cynlluniau gweithredu is-sectorol.

 

Goblygiadau ariannol: Nid oes goblygiadau ariannol.

 

 

Yr Arglwydd Elis-Thomas AS

Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth